P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Britner, ar ôl casglu 119 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer saethu adar hela er mwyn atal erlid adar ysglyfaethus a gysylltir yn aml â'r gweithgaredd hwn.
Mae adroddiadau trosedd adar yr RSPB yn dangos mai ciperiaid sy'n gyfrifol am nifer eithriadol o uchel o ddigwyddiadau erlid adar ysglyfaethus. Fodd bynnag, er gwaethaf y wybodaeth hon, anaml iawn y caiff trefnwr digwyddiadau erlid ei erlyn yn llwyddiannus oherwydd anawsterau wrth gael digon o dystiolaeth i gyhuddo unigolyn penodol. Hyd yn oed yn yr Alban, lle mae atebolrwydd dirprwyol, prin yw'r erlyniadau.
Oherwydd hyn, credwn mai'r cam gweithredu mwyaf priodol yw cyflwyno cynllun trwyddedu. Dylai'r drwydded hon fod yn drwydded i weithredu digwyddiad saethu adar hela
Dylai'r drwydded wneud y canlynol o leiaf:
1. Bod yn berthnasol i ardal ddaearyddol a ddiffinnir yn y cais am
drwydded.
2. Bod yn ofynnol er mwyn i ystâd gynnal unrhyw weithgaredd
sy'n gysylltiedig â saethu adar hela, gan gynnwys, ond heb
fod yn gyfyngedig o reidrwydd i'r canlynol:
2.a. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â magu adar hela.
2.b. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheolaeth gyfreithiol
o ysglyfaethwyr (rhaid i ystadau gael trwydded weithredu cyn y
cânt wneud cais am drwyddedau cyffredinol neu benodol sy'n
gysylltiedig â gweithgareddau rheoli plâu).
2.c. Caniatáu i aelodau'r digwyddiad saethu gymryd rhan wrth
saethu adar hela y tu allan i'r cyfnod gwaharddedig.
2.d. Caniatáu i drefnwr y digwyddiad saethu werthu diwrnodau
saethu i'r cyhoedd.
Os cynhelir digwyddiad erlid ar dir ystâd neu'n agos ato, bydd modd i'r awdurdod priodol atal gallu'r ystâd i gynnal yr holl weithgareddau neu unrhyw un ohonynt a restrir o dan bwynt 2 am gyfnod.
Dylai digwyddiadau erlid difrifol neu fynych arwain at ddiddymu trwydded weithredu'r ystâd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Wrecsam
· Gogledd Cymru